Crynodeb o Adroddiad Blynyddol 2022/23 – am yr adroddiad hwn
Mae’r set hon o adroddiadau’n trafod ein gwaith yn ystod y flwyddyn 2022/23, gan dynnu sylw at dueddiadau allweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw’n cynnig cipolwg ar sut mae ein gwaith yn diogelu defnyddwyr, y risgiau sy’n newid yn y sector a’n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Mae’r adroddiadau’n cynnwys data newydd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Hydref 2023. Sylwch fod ein blwyddyn fusnes yn rhedeg o 1 Tachwedd i 31 Hydref. Oni nodir yn wahanol, mae’r ffigurau’n ymwneud â 31 Hydref 2023 – diwedd y flwyddyn adrodd. Sylwch hefyd fod y wybodaeth ar y tudalennau hyn yn grynodeb o’n gwaith ym mhob maes priodol. Ceir dolenni i’r adroddiad llawn ar bob tudalen.
Mae’r meysydd sy’n cael eu trafod yn yr adroddiad hwn yn cynnwys:
- Awdurdodiad – mae hyn yn cynnwys ein gwaith ar sut rydym yn penderfynu awdurdodi cwmnïau ac unigolion a nifer y cwmnïau a’r unigolion rydym yn eu rheoleiddio. Rydym yn parhau i weld y proffesiwn yn tyfu bob blwyddyn, tra bo nifer y cwmnïau cyfreithiol yn gostwng.
- Diogelu Cleientiaid – mae hyn yn adrodd am ein hymyriadau (lle rydym i bob pwrpas yn cau practis cwmni neu gyfreithiwr) a sut rydym yn rheoli’r gronfa iawndal. Gall y gronfa wneud taliadau i aelodau’r cyhoedd a busnesau bach i gymryd lle arian a gymerwyd neu a ddefnyddiwyd yn amhriodol gan eu cyfreithiwr. Gwelsom y nifer uchaf mewn saith mlynedd o ymyriadau roeddem wedi’u cynnal yn 2022/23, yn ogystal â’r swm roeddem wedi’i dalu o’n cronfa iawndal.
- Addysg a Hyfforddiant – mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am nifer y cyfreithwyr sydd newydd gymhwyso sy’n ymuno â’r proffesiwn, yn ogystal â nifer y prentisiaid cyfreithwyr. Mae nifer yr unigolion a gymhwysodd drwy’r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr yn parhau i dyfu wrth iddo ddod yn brif lwybr tuag at y proffesiwn. Ac mae nifer y cofrestriadau newydd ar gyfer prentisiaid cyfreithwyr wedi cynyddu o 33% o’i gymharu â’r llynedd.
- Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant – mae hyn yn rhoi’r diweddaraf am y cynnydd yn erbyn pum thema allweddol a luniodd ein gwaith yn 2022/23. Roedd y rhain yn cynnwys gwella ein dealltwriaeth o amrywiaeth yn y proffesiwn drwy gyhoeddi ein hadnodd amrywiaeth wedi’i ddiweddaru a dau ddarn sylweddol o ymchwil.
- Cynnal Safonau Proffesiynol a Themâu Gorfodi Allweddol – mae hyn yn trafod tueddiadau yn yr adroddiadau am bryderon a gawn ynghylch cyfreithwyr a chwmnïau, y mathau o gamau gorfodi a gymerwn a’r themâu yn ein gwaith gorfodi. Roeddem wedi cymryd mwy o gamau rheoleiddio yn 2022/23 o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol, a oedd wedi cael ei sbarduno’n bennaf gan gynnydd yn ein gwaith rhagweithiol i wirio cydymffurfiaeth â’n rheolau. Rydym hefyd wedi bod yn bwrw ymlaen â gwaith i wella prydlondeb ac ansawdd ein gwaith ymchwilio a gorfodi. Un o’r prif flaenoriaethau fu lleihau nifer yr ymchwiliadau hirsefydlog. O ganlyniad, fe wnaethom atgyfeirio mwy o achosion at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol.
- Gwaith Monitro Amrywiaeth – dyma’r bumed flwyddyn i ni adrodd am nodweddion amrywiaeth y bobl sy’n rhan o’n prosesau ymchwilio a gorfodi. Rydym ni’n parhau i weld dynion ac unigolion o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu gorgynrychioli yn y pryderon a adroddwyd i ni, o gymharu â’r boblogaeth sy’n ymarfer. Mae’r orgynrychiolaeth yn uwch pan fydd achosion yn pasio ein prawf trothwy asesu ac rydym yn penderfynu ymchwilio iddynt. Gwnaethom gyhoeddi canfyddiadau darn sylweddol o ymchwil i'r gwaith hwn, a gynhaliwyd gan gonsortiwm annibynnol.
Dyma adroddiadau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi:
- Datganiad Cyfyngedig gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ar gyfer 2022/23
- Adroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol y Gronfa Iawndal
- Adroddiad Blynyddol Cyfyngedig a Datganiadau Ariannol y Gronfa Indemniad Cyfreithwyr ar gyfer y Flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Hydref 2023
- Adroddiad Blynyddol Atal Gwyngalchu Arian yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr 2022/23
- Adroddiad Blynyddol Atal Gwyngalchu Arian yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr 2023/24.
Rhannu'r dudalen hon
Hysbysiad cyfreithiol cyfyngedig yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr