Cynnal Safonau Proffesiynol
10,121
o adroddiadau o bryder am y proffesiwn yn 2021/22
wedi eu hatgyfeirio ar gyfer ymchwiliad pellach
o sancsiynau mewnol
76
o achosion gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr
£16.5m
wedi’i wario ar ein gwaith disgyblu
Ein gwaith monitro amrywiaeth
Rydyn ni’n parhau i weld dynion a chyfreithwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael eu gorgynrychioli ers tro mewn pryderon sy’n cael eu mynegi i ni a’r rheini rydyn ni’n ymchwilio iddynt.
Er mwyn ein helpu ni ac eraill i ddeall pam ein bod ni, fel cynifer o reoleiddwyr, yn gweld y patrwm hwn, rydyn ni wedi comisiynu ymchwil annibynnol newydd gan dair prifysgol i daflu goleuni ar yr hyn sy'n digwydd.
Rydyn ni’n parhau i weld dynion a chyfreithwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn cael eu gorgynrychioli ers tro mewn pryderon sy’n cael eu mynegi i ni a’r rheini rydyn ni’n ymchwilio iddynt
Canfu’r adolygiad llenyddiaeth a gynhaliwyd fel rhan o’r ymchwil hwn ychydig iawn o ddeunydd sy’n bodoli eisoes a oedd yn edrych yn benodol ar y sector cyfreithiol. Ond fe wnaethant nodi nifer o themâu cyffredin o sectorau eraill a allai olygu bod y rheini o gefndiroedd ethnig penodol yn fwy tebygol o gael eu hadrodd i’w rheoleiddiwr. Roedd y rhain yn ymwneud â’r canlynol:
- Canfyddiadau neu ddisgwyliadau ymwybodol a diarwybod ymysg y rhai sy’n gwneud y cwynion, sy’n golygu eu bod yn fwy tebygol o gwyno am unigolyn.
- Bod yn fwy agored i amgylcheddau gwaith, mathau o waith neu amgylchiadau eraill sy’n gysylltiedig ag achosion sydd, yn ôl eu natur, yn arwain at fwy o gwynion.
Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r adolygiad llenyddiaeth, mae'r prifysgolion yn cynnal dadansoddiad gwrthrychol a manwl o setiau data'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Byddant hefyd yn archwilio profiadau cyfreithwyr ac ymddygiad ymysg defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol.
Disgwylir y bydd adroddiad terfynol ar yr ymchwil yn cael ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2024.