Rhagair
Croeso i’n cyfres o adroddiadau corfforaethol ar gyfer blwyddyn 2021/22
Mae’r adroddiadau hyn yn ymdrin â’n gwaith ym maes Awdurdodi, Diogelu Cleientiaid ac Addysg a Hyfforddiant. Mae’r adroddiadau’n cwmpasu’r cyfnod rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Hydref 2022, ein blwyddyn ariannol.
Ymdrinnir â’n gwaith gorfodi yn yr adran ar Gynnal Safonau Proffesiynol. Rydyn ni’n gwybod bod y mwyafrif helaeth o’r cyfreithwyr a’r cwmnïau rydyn ni’n eu rheoleiddio yn cyrraedd y safonau uchel rydyn ni’n eu gosod, a’u bod yn darparu gwasanaethau cyfreithiol o ansawdd uchel i’r cyhoedd. Mae ein hadroddiad yn edrych ar yr hyn sy’n digwydd pan nad yw safonau uchel yn cael eu cyrraedd, a’r camau rydyn ni’n eu cymryd i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu diogelu a bod hyder yn y proffesiwn yn cael ei gynnal.
Mae’r hyder hwn yn dibynnu ar ymddiriedaeth ein bod yn gweithredu pan aiff pethau o chwith, yn ogystal â ffydd ein bod yn delio ag achosion o’r fath yn effeithiol ac yn effeithlon. Rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio ar leihau’r amser mae’n ei gymryd i ddod ag achosion i ben, yn enwedig achosion sydd wedi bod yn agored ers amser maith. Mae gennym raglen waith sylweddol i wella ymhellach yn y maes hwn. Bydd ein Bwrdd yn monitro cynnydd yn agos drwy ein hadroddiadau perfformiad, a gyhoeddir gennym fel rhan o bapurau ein Bwrdd.
Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi diweddariad cysylltiedig ar nodweddion amrywiaeth y bobl sy’n rhan o’n prosesau gorfodi, a’r gwaith rydyn ni’n ei wneud i ddeall yn well pam mae rhai grwpiau’n cael eu gorgynrychioli.
Gobeithio y bydd y trosolwg o feysydd allweddol ein gwaith yn ddiddorol i chi, ac y bydd cynnwys a dadansoddiad yr adroddiadau hyn yn ddefnyddiol.
Anna Bradley, Cadeirydd Bwrdd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr